Siarter ICNN

Ein cenhadaeth yw hyrwyddo newyddiaduraeth o safon, helpu i fynd i'r afael â'r diffyg democrataidd mewn cymunedau lle ceir prinder newyddion, a helpu i greu mwy o swyddi ym maes newyddiaduraeth ar lefel leol a hyperleol.

Pwy ydym ni...

ICNN yw corff cynrychioladol y DU ar gyfer y sector newyddion cymunedol a hyperleol annibynnol. Rydym wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo mathau cynaliadwy o newyddiaduraeth ddigidol ac argraffu leol. Rydym yn canolbwyntio ar y lefel leol a hyperleol; y man lle rhoddir y gwerth mwyaf ar newyddiaduraeth, a hefyd ble mae'n wynebu'r risg mwyaf.

Ein gwaith...

Ar hyn o bryd mae dros 300 o gyhoeddiadau cymunedol a hyperleol annibynnol ledled y DU, gan ddwyn y rhai hynny sy’n gwneud penderfyniadau a swyddogion cyhoeddus i gyfrif; maent bellach yn un o brif gynheiliaid ecoleg y cyfryngau modern.

Ond maen nhw’n wynebu sawl her o hyd. Y brif her yw’r her economaidd – sut i wneud cyhoeddiadau cymunedol yn gynaliadwy neu hyd yn oed yn broffidiol.

I’r perwyl hwn, ein hamcanion yw cynyddu cydnabyddiaeth cyhoeddwyr cymunedol, cyflwyno sylwadau ar eu rhan i lunwyr polisïau, cyrff rheoleiddio, cyllidwyr y trydydd sector, busnesau a sefydliadau eraill, a brwydro dros gyfleoedd a thriniaeth deg.

Yn ogystal â gwaith lobïo ac eiriolaeth, bydd y rhwydwaith yn manteisio ar ymchwil barhaus C4CJ er mwyn llywio newyddiaduraeth a chynaliadwyedd o safon uchel yn y sector newyddion lleol a chymunedol.

Rydym yn meithrin cysylltiadau â phartneriaid diwydiannol i gyfrannu at ddatblygiad cynaliadwy ac arloesol yn y sector.

Rydym yn cynnig gwasanaethau ymgynghori am ddim i fusnesau newydd a chyhoeddiadau sefydledig ar faterion sy’n ymwneud â chanllawiau cyfraith y cyfryngau, cyllido a chyfryngau newydd.

Y Siarter Newyddiaduraeth Gymunedol...

Bydd ICNN yn hyrwyddo ac yn amddiffyn buddiannau cyffredin y sector newyddion cymunedol yn y DU drwy:

Weithredu ar ran cyhoeddiadau newyddion cymunedol a hyperleol (fel y’u diffinnir yn yr erthygl: ‘Beth rydym ni’n ei olygu wrth siarad am hyperleol’), o fusnesau newydd i fusnesau sefydledig; busnesau er elw a nid-er-elw, gwirfoddolwyr ymroddedig i entrepreneuriaid;

Cael cydnabyddiaeth ac achrediad am y cyfraniad gwerthfawr y maent yn ei rhoi i'w priod gymunedau ac i'r broses ddemocrataidd, a hyrwyddo'r achos dros newyddiaduraeth gymunedol gref;

Ceisio gwella a meithrin sector newyddion cymunedol a hyperleol deinamig a chynaliadwy – drwy lobïo, eiriolaeth, hyfforddi, rhwydweithio, cynnal ymchwil a monitro;

Sicrhau llwyddiant sefydliadau ein haelodau drwy ysgogi cyfleoedd economaidd;
arwain arloesedd a chydweithio sy'n gwasanaethu ac yn amddiffyn nodau ac uchelgeisiau'r sector;

Hyrwyddo a helpu i gynnal y safonau uchaf posibl ym maes newyddiaduraeth;

Manteisio ar gyfleoedd i gryfhau twf swyddi yn y sector – drwy ymchwilio a buddsoddi mewn modelau o arfer da ac effeithiol ac mewn atebion sy'n seiliedig ar dechnoleg.

Am ICNN
Map Aelodaeth
Ymunwch ag ICNN

Mae aelodau ICNN yn ufuddhau i’r canlynol:

Nid oes gan gyhoeddiadau aelodau fuddiannau masnachol, gwleidyddol a chrefyddol;
Maen nhw’n canolbwyntio ar y gymuned ac yn ceisio cynrychioli barn eu cymuned;
Maen nhw’n cynhyrchu newyddion cyfoes neu gynnwys sy'n gysylltiedig â newyddion (mae hynny'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, newyddion sy'n torri, y celfyddydau a diwylliant, chwaraeon, nodweddion newyddion, digwyddiadau adloniant diwylliannol a chymunedol, ymgyrchoedd, tywydd, trafnidiaeth, trosedd, hanes lleol a busnes lleol, ac ysgolion).
Maen nhw’n cynnal safonau proffesiynol uchel, gan gynnwys cywirdeb, tryloywder, gonestrwydd, atebolrwydd a thegwch.

Yn ddieithriad, mae holl aelodau ICNN wedi ymrwymo i weithio o fewn a chydymffurfio â chanllawiau Côd Ymarfer y Golygyddion a/neu'r Côd Safonau Argraff.

Mae ICNN yn cael ei gynnal gan aelodau, ar gyfer aelodau, ac ni chodir tâl i ymuno.

Dilynwch ni...

// @ICNN @C4CJ

Cael y diweddaraf...

Cofrestrwch ar gyfer ein newyddion a'n diweddariadau diweddaraf

* yn nodi bod angen

Nid yw'r Ganolfan Newyddiaduraeth Gymunedol yn rhannu, yn gwerthu, yn dosbarthu nac yn trosglwyddo'ch data i unrhyw drydydd parti mewn unrhyw ffordd. Rydym yn defnyddio'r wybodaeth rydych chi'n ei darparu, i gysylltu â chi gyda’r wybodaeth ddiweddaraf am y sector newyddion cymunedol a hyperleol yn unig, ac i roi gwybod i chi am gyfleoedd hyfforddi. Gallwch newid eich meddwl unrhyw bryd drwy glicio'r ddolen dad-danysgrifio ar waelod unrhyw ebost a gewch gennym, neu drwy gysylltu â ni yn [email protected]. Byddwn yn trin eich gwybodaeth â pharch. I gael rhagor o wybodaeth am ein harferion preifatrwydd ewch i'n gwefan. Drwy glicio isod, rydych yn cytuno y cawn brosesu eich gwybodaeth yn unol â'r telerau hyn.

GDPR: Rydym yn defnyddio Mailchimp fel ein platfform marchnata. Trwy glicio isod i danysgrifio, rydych chi'n cydnabod y bydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo i Mailchimp i'w phrosesu. Cewch ragor o wybodaeth am arferion preifatrwydd Mailchimp yma.

Centre for Community Journalism