Gwybodaeth am ICNN

Mae safleoedd newyddion cymunedol a hyperleol annibynnol yn cyflawni rôl draddodiadol y bedwaredd ystâd mewn cymdeithas ddinesig leol, gan ychwanegu at y ddarpariaeth amrywiol o newyddion sydd ar gael.

Mae twf y safleoedd hyn yn cynrychioli newid mewn agweddau o ran cael newyddion. Mae cynulleidfaoedd eisiau gwybodaeth leol, agosatrwydd, ymddiriedaeth, cysylltiadau; maen nhw eisiau gwybod pwy yw eu newyddiadurwr lleol; ac maen nhw eisiau cymryd rhan. Mae cynulleidfaoedd eisiau'r hyn y mae newyddiadurwyr hyperleol yn ei gynnig ac maen nhw’n symud yn gynyddol oddi ar y llu o ddewisiadau eraill sy’n seiliedig ar hysbysebion y mae ychydig gwmnïau yn unig yn gyfrifol amdanynt.

Mae gan safleoedd newyddion cymunedol lleol rôl enfawr mewn democratiaeth leol. Mewn sawl ardal nhw yw’r unig newyddiadurwyr sy’n mynychu cyfarfodydd cynghorau lleol, cyfarfodydd cynllunio lleol, ysgolion, etholiadau, gwrandawiadau llysoedd ynadon, ac yn dwyn y rhai hynny sydd mewn grym i gyfrif; gan helpu i feithrin hunaniaeth a rennir a chydlyniant cymdeithasol. Ceir ardaloedd, lle byddai arweinwyr trefni a dinasoedd yn gweithredu heb eu gwirio pe na bai’r cyhoeddiadau hyperleol yn bodoli.

Yr her yw nad yw’r model busnes a fu’n cynnal y newyddion a gynhyrchwyd yn yr ugeinfed ganrif yn bodoli mwyach. Mae refeniw hysbysebu wedi dirywio, gan ei gwneud yn ffynhonnell incwm hynod annibynadwy. Nid oes ganddynt y seilwaith na'r gefnogaeth gan y wladwriaeth (dim eithriad TAW na hawl i gyhoeddi hysbysiadau cyhoeddus statudol) sy'n helpu i gynnal sefydliadau mwy. Oherwydd bod llawer o'r teitlau hyn yn cael eu cynnal gan unigolion, sydd â swyddi amser llawn ac ymrwymiadau teuluol, mae perygl go iawn y bydd y cyhoeddiadau’n mynd i’r wal.

Fodd bynnag, ac efallai oherwydd y problemau hyn, mae’r sector wedi dangos ei fod yn ddysg ac yn arloesol. Mae’n gyson yn chwilio am ffyrdd i foderneiddio arferion a symleiddio gweithrediadau. Mae'r Rhwydwaith Newyddion Cymunedol Annibynnol (ICNN) yn bodoli i gefnogi'r sector amrywiol hwn ac i hyrwyddo newyddiaduraeth o safon, helpu i fynd i'r afael â'r diffyg democrataidd mewn cymunedau newyddion lle ceir diffyg newyddion, a helpu i greu mwy o swyddi ar lefel leol.

Nerth Cymuned...

Ni yw llais dros 100 o safleoedd newyddion cymunedol. O Ynysoedd Shetland i frig deheuol Cernyw, o Ogledd Iwerddon i ogledd Cymru, mae ein haelodau’n cwmpasu hyd a lled y DU.

Nid oes gan aelodau ICNN fuddiannau masnachol, gwleidyddol a chrefyddol. Maen nhw’n canolbwyntio ar y gymuned ac yn creu cynnwys newyddion cyfoes. Mae pob un yn cynnal safonau proffesiynol uchel, gan gynnwys cywirdeb, tryloywder, gonestrwydd, atebolrwydd a thegwch. Maen nhw wedi ymrwymo i gydymffurfio â Chôd Ymarfer Golygyddion IPSO neu’r Côd Safonau Argraff ac mae pob un yn dangos strwythur rheoli/perchnogaeth clir a thryloyw. Mae ein haelodau yn gwbl gynhwysol o bob ethnigrwydd a chefndir ac nid ydynt yn wahaniaethol.

Er bod y rhan fwyaf o’n teitlau’n 'hyperleol' o safbwynt daearyddol, mae aelodau eraill yn cynrychioli cymunedau o ddiddordeb, fel y Ferret, neu Hold the Front Page. Mae gan bron hanner o’n haelodau naill ai bapurau newydd print clodforus, neu maen nhw’n cyhoeddi papur newydd wythnosol, bob pythefnos neu fisol.

Ymunwch ag ICNN
Siarter ICNN
Map Aelodaeth

“Roedd yn anrhydedd i ni fod yn aelod cyntaf ICNN ac mae wedi bod yn wych i’w weld yn lobïo ac yn ymladd ar ran cynifer o sefydliadau cyfryngau cymunedol fel ni. Mae ICNN yn cynnig llais unedig hanfodol i gynifer o gymunedau gwahanol ledled y DU. Ni allwn aros i’r 100 nesaf gofrestru.”

John Baron - West Leeds Dispatch

Dilynwch ni...

// @ICNN @C4CJ

Cael y diweddaraf...

Cofrestrwch ar gyfer ein newyddion a'n diweddariadau diweddaraf

* yn nodi bod angen

Nid yw'r Ganolfan Newyddiaduraeth Gymunedol yn rhannu, yn gwerthu, yn dosbarthu nac yn trosglwyddo'ch data i unrhyw drydydd parti mewn unrhyw ffordd. Rydym yn defnyddio'r wybodaeth rydych chi'n ei darparu, i gysylltu â chi gyda’r wybodaeth ddiweddaraf am y sector newyddion cymunedol a hyperleol yn unig, ac i roi gwybod i chi am gyfleoedd hyfforddi. Gallwch newid eich meddwl unrhyw bryd drwy glicio'r ddolen dad-danysgrifio ar waelod unrhyw ebost a gewch gennym, neu drwy gysylltu â ni yn [email protected]. Byddwn yn trin eich gwybodaeth â pharch. I gael rhagor o wybodaeth am ein harferion preifatrwydd ewch i'n gwefan. Drwy glicio isod, rydych yn cytuno y cawn brosesu eich gwybodaeth yn unol â'r telerau hyn.

GDPR: Rydym yn defnyddio Mailchimp fel ein platfform marchnata. Trwy glicio isod i danysgrifio, rydych chi'n cydnabod y bydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo i Mailchimp i'w phrosesu. Cewch ragor o wybodaeth am arferion preifatrwydd Mailchimp yma.

Centre for Community Journalism