Croeso i Ganolfan Newyddiaduraeth Gymunedol Prifysgol Caerdydd

We offer networking, information and training for hyperlocal or community journalists. This project is part of the Transforming Communities engagement projects that demonstrate Cardiff University's commitment to the communities of Cardiff, Wales and beyond.

Beth Ni’n Ei Wneud

Cysylltu â chyhoeddwyr hyperleol ledled y byd

Rhowch eich cyhoeddiad ar y map.

Rydym wedi adeiladu rhwydwaith o gyhoeddiadau newyddion cymunedol a hyperleol annibynnol o Sydney, Awstralia i Sao Paulo Brasil; o Chongqing, China i Darlington, Sir Durham. Archwiliwch ein map i ddod o hyd i hyperleol yn eich ardal chi neu i weld sut mae'r sector amlbwrpas hyn yn tyfu ledled y byd. Gallwch hyd yn oed ymuno â'r rhwydwaith trwy ychwanegu eich cyhoeddiad eich hun i’r map.

Beth yw hyperleol?

ICNN

Y Rhwydwaith Newyddion Cymunedol Annibynnol (ICNN) yw corff cynrychioliadol y DU ar gyfer y sector newyddion cymunedol annibynnol.

Rydym yn bodoli i hyrwyddo buddiannau cyhoeddwyr cymunedol a hyperleol yn y DU, ac i hyrwyddo ffurfiau newydd a chynaliadwy o newyddiaduraeth ddigidol ac argraffu leol. Ni yw llais dros 100 o frandiau newyddion cymunedol yn y DU. Ein hamcanion yw cynyddu cydnabyddiaeth o gyhoeddwyr cymunedol a'r gwaith hanfodol a wnânt; cyflwyno sylwadau ar eu rhan i lunwyr polisi, cyrff rheoleiddio, cyllidwyr trydydd sector, busnesau a sefydliadau eraill, ac ymladd am well cyfleoedd i bawb.

Gwnewch gais i ymuno ag ICNN

Aelodaeth Gyfredol: 118

Gyda'n gilydd rydym yn adeiladu dyfodol newyddiaduraeth gymunedol annibynnol ......

Gweld Holl Aelodau ICNN

Y Fforwm

Cysylltu, Dysgu a Gwneud Gwahaniaeth Gyda chymuned hyperleol ar draws y DU. Ymunwch â'r Fforwm Hyperleol Heddiw.

Ymunwch â'r Ddadl

Porwch Ein Blog

Saith cyntaf i dderbyn Cronfa Newyddiaduraeth er Lles y Cyhoedd yng Nghymru wedi’u cyhoeddi

Mae cronfa o £100,000, i gefnogi newyddiaduraeth er lles y cyhoedd ymhlith cyhoeddwyr annibynnol yng Nghymru, wedi dyfarnu ei saith…

Annog cyhoeddwyr o Gymru i geisio am grant y Llywodraeth

Mae cyhoeddwyr annibynnol yng Nghymru ar fin cael elwa o gyfran o gronfa o £100,000 i gefnogi newyddiaduraeth gymunedol er…

Visit Our Full Blog

Thema Wordpress Am Ddim

Dyluniwyd ein Thema Wordpress newydd gyda Chyhoeddiadau Hyperleol Mewn Golwg. Mae'n rhad ac am ddim, yn effeithiol ac yn syml iawn i'w ddefnyddio

Dyluniwyd ein thema WordPress rhad ac am ddim gyda chyhoeddiadau newyddion cymunedol annibynnol mewn golwg. Mae'r thema yn hawdd ei haddasu hyd yn oed heb lawer o wybodaeth dechnegol, ac mae'n cynnwys nodweddion fel ardal pennawd sy’n sgrolio, categorïau newyddion adeiledig, cysylltiadau cymdeithasol a gofod hysbysebu. Mae hefyd yn ddyluniad cwbl ymatebol felly mae'n edrych yn wych ar liniaduron, tabledi a sgriniau ffôn symudol. Mae'n ddechrau gwych i unrhyw un sydd eisiau sefydlu gwefan newyddion cymunedol newydd.

Lawrlwythwch yma

Hyfforddiant C4CJ

Canllawiau 'Sut i wneud' yn rhoi gwybodaeth i ymarferwyr newyddion lleol ac i’r rhai sy'n sefydlu cyhoeddiad newyddion.

Ymchwil C4CJ

Yn yr adran hon rydym yn rhannu ymchwil a thystiolaeth am newyddiaduraeth hyperleol a chymunedol a gynhyrchir gennym ni ac eraill.

Adnoddau C4CJ

Ysgol Newyddiaduraeth, Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol Prifysgol Caerdydd yw'r ganolfan hyfforddi NCTJ sydd â'r sgôr uchaf yn y DU.

Dilynwch ni...

// @ICNN @C4CJ

Cael y diweddaraf...

Cofrestrwch ar gyfer ein newyddion a'n diweddariadau diweddaraf

* yn nodi bod angen

Nid yw'r Ganolfan Newyddiaduraeth Gymunedol yn rhannu, yn gwerthu, yn dosbarthu nac yn trosglwyddo'ch data i unrhyw drydydd parti mewn unrhyw ffordd. Rydym yn defnyddio'r wybodaeth rydych chi'n ei darparu, i gysylltu â chi gyda’r wybodaeth ddiweddaraf am y sector newyddion cymunedol a hyperleol yn unig, ac i roi gwybod i chi am gyfleoedd hyfforddi. Gallwch newid eich meddwl unrhyw bryd drwy glicio'r ddolen dad-danysgrifio ar waelod unrhyw ebost a gewch gennym, neu drwy gysylltu â ni yn [email protected]. Byddwn yn trin eich gwybodaeth â pharch. I gael rhagor o wybodaeth am ein harferion preifatrwydd ewch i'n gwefan. Drwy glicio isod, rydych yn cytuno y cawn brosesu eich gwybodaeth yn unol â'r telerau hyn.

GDPR: Rydym yn defnyddio Mailchimp fel ein platfform marchnata. Trwy glicio isod i danysgrifio, rydych chi'n cydnabod y bydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo i Mailchimp i'w phrosesu. Cewch ragor o wybodaeth am arferion preifatrwydd Mailchimp yma.

Centre for Community Journalism