Amdanom ni

Mae'r Ganolfan Newyddiaduraeth Gymunedol yn rhan o Ysgol Newyddiaduraeth, Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol Prifysgol Caerdydd.

Datblygodd allan o'n hanes hir o hyfforddiant ac ymchwil broffesiynol o ansawdd uchel, ein hymrwymiad i newyddiaduraeth leol, a'n dymuniad i'w gefnogi ymhob ffurf wrth iddo fynd trwy newidiadau mawr.

Ymrwymiad i Gymunedau

Mae Canolfan Newyddiaduraeth Gymunedol y Brifysgol yn brosiect ymgysylltu pwysig sy’n cyflawni ymrwymiad y Brifysgol i gymunedau Caerdydd, Cymru a thu hwnt. Mae’r Ganolfan yn cyd-fynd â Chenhadaeth Ddinesig y Brifysgol drwy gefnogi datblygiad canolfannau newyddion cymunedol yng Nghymru yn ogystal â chynnig cyngor ac arweiniad i’r rhai sydd â diddordeb lleol iawn yn y DU a ledled y byd. Mae ein prosiect Adnoddau Gwneud Newyddion i ysgolion yn rhan o strategaeth allweddol ehangach Prifysgol Caerdydd i weithio gyda phartneriaid addysg, a holl ysgolion Cymru er mwyn cefnogi athrawon i weithio tuag at well cyrhaeddiad. Ers iddi gael ei sefydlu yn 2013, mae’r Ganolfan wedi hyfforddi miloedd o ddysgwyr ar-lein ac all-lein.

Cysylltwch â C4CJ
Porwch Ein Blog
Ysgol Newyddiaduraeth

Cefnogi Newyddiaduraeth Leol

Rydym yn cefnogi mathau newydd o newyddiaduraeth ddigidol lleol ac yn archwilio modelau newydd, cynaliadwy ar gyfer newyddion.

Mae ein ffocws ar y lefel leol; y man lle mae newyddiaduraeth yn cael ei werthfawrogi fwyaf, ond hefyd yn y perygl mwyaf. Sefydlwyd C4CJ oherwydd bod newyddiaduraeth leol ym Mhrydain yn wynebu nifer o heriau mawr, megis:

  • Cynnydd y rhyngrwyd, gan daro modelau busnes traddodiadol o newyddiaduraeth brint yn galed;
  • Mae refeniw darllen a hysbysebu yn dirywio'n gyson;
  • Llai o gyfleoedd i newyddiadurwyr oherwydd torri costau;
  • Ymddiriedaeth mewn newyddiaduraeth yn dirywio oherwydd nifer o sgandalau proffil uchel yn ddiweddar.

Mae’r argyfwng yn y diwydiant newyddion wedi'i deimlo'n fwyaf difrifol, mewn sawl ffordd, ar y lefel leol lle nad oes arbedion maint a mae llai o elw. Mewn gwlad fel Cymru, gyda'i threiddiad uchel o newyddion wedi ei seilio yn Llundain, mae hyn yn creu'r potensial ar gyfer gwyriad democrataidd difrifol. Yn y Ganolfan Newyddiaduraeth

Gymunedol rydym yn ymwybodol iawn o'r materion hyn ond rydym yn dal i gredu yng ngwerth newyddiaduraeth dda. Ni eisiau gwneud popeth o fewn ein gallu i helpu i lunio dyfodol newyddion lleol - dyfodol sy'n cadw ysbryd delfrydiaeth tra’n delio â realiti ymarferol.

Gweledigaeth Glir

Mae ein Strategaeth yn cynnwys Tair Elfen Graidd

HyfforddiantAc Allgymorth

Rydym yn darparu cyrsiau hyfforddi i newyddiadurwyr hyperleol yn y DU yn yr ystod o sgiliau sydd eu hangen arnynt i weithio'n effeithiol. Mae'r rhain yn cynnwys: technegau casglu newyddion; ymwybyddiaeth o fframweithiau cyfreithiol a moesegol; defnyddio llwyfannau digidol a chyfryngau cymdeithasol; a datblygu strategaethau cymunedol a chynnwys. Rydym hefyd yn darparu hyfforddiant i sefydliadau allanol fel Llywodraeth Cymru, Undeb Cenedlaethol y Newyddiadurwyr (NUJ) a'r Undeb Addysg Cenedlaethol (NEU).

RhwydweithioA Chyngor

C4CJ yw'r ganolfan ragoriaeth ar gyfer rhannu a lledaenu cyngor ac adnoddau am yr arferion gorau ym maes newyddion cymunedol a hyperleol annibynnol. Rydym yn cynnig cefnogaeth ac arweiniad i rwydwaith o filoedd o newyddiadurwyr cymunedol ledled y byd, ac yn adeiladu llyfrgell o adnoddau defnyddiol ar gyfer newyddiadurwyr cymunedol ar y wefan hon. Rydym yn casglu ac yn lledaenu'r mewnwelediad diweddaraf i'n rhwydwaith yn rheolaidd.

Ymchwil A Monitro

Mae Prifysgol Caerdydd wsedi ei raddio yn ail yn genedlaethol am effaith ein hymchwil ac rydym ymhlith y pum prifysgol orau yn y DU am ragoriaeth ymchwil. Mae'r Ysgol Newyddiaduraeth, Cyfryngau a Diwylliant hefyd yn cael ei hedmygu am ei hymchwil, ac mae hyn yn bwydo mewn i'n gwaith gydag ymarferwyr a sefydliadau, ac yn helpu i bennu ein heiriolaeth. Mae hyn, yn ei dro, yn bwydo’n ôl i ymchwil C4CJ ac ICNN gan greu dolen adborth gadarnhaol.

Gwasanaethau Hyfforddi
Pori Adnoddau
Ein Ymchwil

Cyfarfod â'r Tîm

Emma Meese

Centre Manager

Emma manages the Centre for Community Journalism, giving community journalists access to the highest standard of training in digital and social media. Emma also speaks at a number of conferences and events, including the Social Media Conference for Wales.

E | [email protected]

T | 029 2087 0101

Matt Abbott

Communications and Project Officer

Matt leads on communications for the Centre for Community Journalism, sharing best practice through its website, social media channels and newsletter. This involves communicating with researchers, funders and stakeholders to promote the work of the Centre. Matt also manages the budget and project governance.

E | [email protected]

T | 029 2068 8750

Cheryl Crook

Project Administrator

Cheryl administers the day-to-day work of the Centre for Community Journalism, including raising invoices and managing team calendars. Cheryl works two days per week, usually Tuesday and Thursday.

E | [email protected]

T | 029 2087 0101

Dilynwch ni...

// @ICNN @C4CJ
Centre for Community Journalism